Cyngor Bro Llanfihangel Glyn Myfyr
Cynhelir cyfarfod or Cyngor ar nos fercher 19fed o Fawrth am 7.00.
Yn bresennol oedd Generys Roberts, Medwyn Roberts, Gethin Jones, Eryl Evans, Arwyn Ellis, Helen Jones (cadeirydd) a Cyng Gwennol Ellis.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Llyr Jones.
Croesawyd Marc Roberts in plith i drafod symud ymlaen ir gael trio am arian grant i gael Parc Chwarae yn y Gro. Trafodwyd y mater a chafwyd ymateb cadarnhaol i gychwyn ar y prosiect lle fydd Marc yn cael ei gyflogi i ymgymeryd ar gwaith o hel grantiau a.y.y b. nodwyd gan Marc os oedd yna grwp elusen arall yn Llanfihangel – sonwyd am Cymdeithas Chwaraeon Llanfihangel ac efallai fuase n dda cael ei cynnwys hwy hefyd y clerc i wneud ymoliadau.
Arwyddwyd y cofnodion blaenorol fel rhai cywir.
Doedd neb yn datgan diddordeb ir Agenda.
Gohebiaeth
1. Unllais Cymru – tal aelodaeth £40.00 pasiwyd iw dalu.
2. Cyngor Sir Conwy - Treth toiledau dim taliad.
3. Theatr Bara Caws – gofyn am gyfraniad – pasiwyd ei adael tan y cyfarfod nesa.
4. Sgip pasiwyd i gael sgip yn mis mai.
5. HSBC yn y banc - £2,768.75
6. Cadwyn Clwyd - taliad 10% or grant y cae peldroed.
7. Ad daliad VAT - £1,085.20.
8. Gair gan y Cynghorydd Gwennol Ellis dywedodd bod 4 or 5 annedd Cartrefi Conwy yn Uwchaled yn cael ei gosod. Mae debyg bod addewid o arian gan y Sir wedi ei glusnodi i drwsio y Bont y Crown.
9. Cyngor Sir Conwy/sir ddinbych - nodwyd gan Eryl bod cyflwr y ffordd rhwnd Pant Mel a Cefn Ceirch yn ddrwg.
10. Cyflog y clerc – trafodwyd y cyflog ac seliwyd y cyflog yn ol canllawia NALC ar scale 18 sef £15.84 yr awr yn ol 3 awr yr wythnos.
Talwyd y cyflog y clerc y swm o £2,471.04 am y flwyddyn i ddiwedd Mawrth 2025.