Cyngor Cymuned Llanfihangel Glyn Myfyr

Cyngor Cymuned Llanfihangel Glyn Myfyr

Croeso i wefan Cyngor Cymuned Llanfihangel Glyn Myfyr. 

Mae pentref Llanfihangel GM wedi'i leoli ar y ffordd y B5105 o Ruthun i Gerrigydrudion yn ardal o harddwch naturiol eithriadol Hiraethog. Mae enw'r pentref yn golygu 'Eglwys Sant Mihangel yn y Dyffryn Myfyrdod'.

Y pentref yw calon y gymuned ffermio leol, mae ffermydd cig eidion, llaeth a defaid, ac mae arallgyfeirio diweddar wedi arwain at gynhyrchu rêp had olew a dofednod buarth. Mae gan y pentref dafarn o'r enw The Crown sydd wedi'i lleoli ar waelod allt enwog y “Crown” ger Pont yr Afon Alwen. Yn y pentref mae Eglwys Sant Mihangel, sef yr adeilad hynaf; fe'i crybwyllwyd yn Nhrethiant Norwich 1254 fel Ecca de Lanvihangel. Mae lle picnic hyfryd ger glan yr afon ychydig yn bellach ar hyd y ffordd. Mae gan y pentref gapel, a gynhelir yn y festri, lle mae'r diffibriliwr lleol i'w ganfod hefyd. Mae yna hefyd ganolfan fach yn Nant yr Odyn sy'n addas iawn i gynnal digwyddiadau elusennol. Yn ystod yr haf bydd y pentrefwyr yn cynnal diwrnod chwaraeon a barbeciw sy'n ffordd ddelfrydol o ddod at ei gilydd, mae yma hefyd Sefydliad Y Merched llwyddiannus gyda dros 20 o aelodau.

Un o feibion enwog y pentref oedd Owain Myfyr {Owen Jones}, hynafiaethydd oedd yn byw yn Nhyddyn Tudur, a’i nai Hugh Maurice. Ar ôl trechu Castell Dinbych, cafodd Cyrnol William Salesbury ei anfon i fyw yn Fferm Bodtegir, a galwyd ef yn 'Hen Sane Gleision' ar ôl y hosanau lliw glas yr oedd yn eu gwisgo 

Mae dwy fryngaer hynafol, yng Nghaer Ddunod ac yng Nghaer Caradog, mae cyfeiriadau hefyd yn yr ardal at saint, Ffynnon Saint yn Nhyddyn Tudur a Phant Saint, cae yn Derwydd

Mae ymwelwyr bob amser yn cael eu swyno gan yr awyrgylch tawel, y daith hyfryd, a'r byd naturiol sydd i'w gael yma.

195 oedd y boblogaeth yn 2001, gyda 69% o'r rheini yn siarad Cymraeg. Roedd 30% yn gweithio mewn amaethyddiaeth. Teithiodd 63% i ddod o hyd i waith.